'Rwyf yn gwel'd yr afon ddofn
Yn agosach i mi'n awr,
Mae arwyddion am yr amlaf
Mai cyn hir yr af i lawr;
'Rwyf yn ofni fy ngrasusau,
Ofni'r tonau bob yr un;
Nid wyf fi yn ngwyneb angeu
Ond y gwaelaf, lesgaf ddyn.
O! fy enaid gwan, nac ofna,
Nid congcwerio unrhyw fai,
Na chongcwerio cant o feiau,
Rwystra'm hysbryd lwfrhau;
Gwel'd y gras sydd yn yr Iesu -
Môr digonol yw i'r gwan,
Yn nyfnderoedd angeu creulon,
Ddeil fy ysbryd llesg i'r lan.
Cant o weithiau, ol a gwrthoi,
Y dilynais i fy mai;
Pechu cyn adnabod pechod,
Pechu wedi edifarhau;
Dacw'r graig rhaid im ymddiried;
Dacw'r lloches, dacw'r fan,
Yn nghangenau pren y bywyd;
Arall ddim nis deil fi i'r lan.
Ffarwel i chwi gynt a gerais,
Nid yw'ch cwmni,
nid yw'ch gwedd,
Nid yw'r cariad sy'n eich calon
Ragor na dod hyd y bedd:
Pan ddêl angeu, chwi ffowch ymaith.
Da i mi fod genyf Dduw;
Ffrynd fo gydaf wedi marw,
Hwnw garaf fi yn fyw.
William Williams 1717-91
Tonau [8787D]: gwelir: Ffarwel i chwi gynt a gerais O fy enaid gwan nac ofna |
I am seeing the deep river
Approaching me now,
Signs are becoming more frequent
That before long I shall go down;
I am fearing my graces,
Fearing the waves every one;
In the face of death I am only
The worst, most feeble man.
O my weak soul, do not fear,
Not conquering any fault,
Nor conquering a hundred faults,
Shall prevent my spirit losing heart;
Seeing the grace that is in Jesus -
A sea sufficient it is for the weak,
In the depths of cruel death,
To hold my feeble spirit up.
A hundred times, back I would turn,
I followed my fault;
Sinning before knowing sin,
Sinning after repenting;
Yonder is the rock I need to trust;
Yonder is the refuge, yonder the place,
In the branches of the tree of life;
No other shall hold me up.
Farewell to you I once loved,
Your company is not,
your appearance is not,
Your love that is in your hearts is not
Great enough to come as far as the grave:
When death comes, ye flee away.
Good for me that I have God;
A Friend who would be with me after death,
Him I shall love alive.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|